Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission
NAFWC 2011
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2011
Dyddiad:14
Gorffennaf 2011
Amser: 12:00
Lleoliad: Ystafell gynadledda 4B
Yn bresennol:
Y Llywydd, Cadeirydd
Peter Black AC
Angela Burns AC
Sandy Mewies AC
Rhodri Glyn Thomas AC
Swyddogion yn bresennol:
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc
Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu
Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad
Craig Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau i’r Comisiwn ac
i’r Aelodau
Helen Finlayson, Ysgrifenyddiaeth
Steven O’Donoghue, Pennaeth Adnoddau’r Cynulliad
– eitemau 2 a 3
Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu – eitem 4
Cynghorwr annibynnol:
Mair Barnes
Eraill:
David Melding AC, y Dirprwy Lywydd
1. Cyflwyniad y
Cadeirydd
Diolchodd y
Llywydd i staff y Cynulliad, yn enwedig Claire Clancy, Keith Bush
ac Adrian Crompton, am y gefnogaeth a’r cyngor a roddwyd mewn
perthynas ag ethol dau unigolyn i’r Cynulliad pan oeddent
wedi’u hanghymhwyso. Roedd y Comisiwn yn ddiolchgar am
gefnogaeth swyddogion i ddatrys sefyllfa gymhleth a digynsail cyn
gynted ag y bo modd, drwy broses deg a chyfreithiol
gadarn.
Nododd y Llywydd fod y trefniadau newydd ar gyfer ateb Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Comisiwn wedi gweithio’n dda ar 6 Gorffennaf, a bod adborth gan Aelodau wedi bod yn gadarnhaol.
Cytunodd y Comisiwn y byddai papurau briffio’r Aelodau yn cael eu dosbarthu ar ôl cyfarfodydd yn y dyfodol.
Ymddiheuriadau
Ni
dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganiadau
o ddiddordeb
Nid oedd
unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2011
Cytunwyd ar
y cofnodion yn ffurfiol.
Materion yn
codi o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2011
Nid oedd
unrhyw faterion yn codi.
2. Strategaeth
ddrafft diwygiedig y Comisiwn ar gyfer 2011-16
Mae’r strategaeth ddrafft ar gyfer 2011-16 wedi
cael ei diweddaru i adlewyrchu sylwadau gan y Comisiynwyr am eu
blaenoriaethau a’u dyheadau ar gyfer y sefydliad.
Cytunwyd ar y fersiwn ddiwygiedig o’r datganiad o bwrpas a’r nodau strategol drafft, yn amodol ar fân newidiadau pellach y gofynnodd y Comisiynwyr amdanynt, i symleiddio geiriad y strategaeth.
3. Drafft o
strategaeth gyllideb y Comisiwn
Trafododd y Comisiynwyr y
gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad fel deddfwrfa sydd
â phwerau deddfu llawn yn dilyn y refferendwm.
Cytunwyd bod y Cynulliad, fel sefydliad sy’n
tyfu, angen safon uchel o wasanaethau cymorth priodol i
alluogi’r Aelodau i gyflawni eu rolau. Rhoddwyd adborth ar yr
effaith a gaiff gostyngiadau yng nghyllideb y gwasanaeth ymchwil ar
Aelodau.
Trafodwyd blaenoriaethau’r Comisiynwyr ar gyfer darparu gwasanaethau craidd, gan gynnwys cefnogaeth arbenigol benodol ar gyfer pwyllgorau’r Cynulliad, Gwasanaeth Ymchwil cryf, gwasanaethau cyfreithiol, ac adnoddau TGCh arbenigol ar gyfer datblygu’r strategaeth TGCh. Rhoddwyd arweiniad ar y dull cyffredinol o weithredu strategaeth y gyllideb ar gyfer 2011-16, ac ar y lefel orau o gydbwysedd rhwng gwelliannau / twf a chost. Roedd y Comisiynwyr yn teimlo ei bod yn bwysig i gyflwyno cyfanswm cyfunol cyllideb Gwasanaethau’r Cynulliad a chyllideb yr Aelodau gyda’i gilydd.
Bydd cynigion cyllidebol manwl—gan amlygu lle gellid gwneud arbedion a lefel yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer pob gwasanaeth—a strategaethau cyfathrebu drafft yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf.
Cam i’w gymryd: Swyddogion i wneud gwaith manwl yn ystod yr haf, gan weithio gyda deiliaid portffolio. Bydd y Comisiwn yn trafod y gwaith ym mis Medi.
4. Gwasanaethau
dwyieithog
Cafodd y Cofnod o Drafodion y
Cyfarfod Llawn ei drafod, gan ystyried yr adroddiad gan Fwrdd yr
Iaith Gymraeg, sylwadau a wnaed gan Aelodau a rhanddeiliaid, yr
egwyddor o fynediad i drafodion y Cynulliad drwy gyfrwng y Gymraeg
neu’r Saesneg, a’r angen i sicrhau gwerth am
arian. Cytunodd y
Comisiwn y dylai ymchwiliadau i ddarparu cofnod dwyieithog barhau,
a gofynnodd am ragor o wybodaeth fanwl am gyfanswm y costau
tebygol, gan gynnwys strwythur tâl y gwasanaeth Google
Translate o fis Rhagfyr 2011 ymlaen. Dywedodd y
Comisiwn bod angen i unrhyw drefniant fod yn gynaliadwy. Fodd
bynnag, os gellid dod o hyd i ateb hirdymor am bris rhesymol, mewn
egwyddor, mae’r Comisiwn yn awyddus i ddarparu Cofnod gwbl
ddwyieithog. Yn y
cyfamser, bydd trefniadau presennol yn parhau. Bydd y Llywydd yn ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg
ynglŷn
â’r mater.
Yn amodol ar ddiwygiadau i adlewyrchu’r penderfyniadau hyn, cytunwyd ar Fil drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch Ieithoedd Swyddogol, y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft a’r amserlen ymgynghori. Gofynnodd y Comisiynwyr bod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnwys rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, gan gynnwys awdurdodau lleol.
Camau i’w cymryd: Swyddogion i ddarparu rhagor o fanylion am gostau defnyddio Google Translate o fis Rhagfyr 2011 ymlaen.
Y Llywydd i ymateb i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar ran Comisiwn y Cynulliad.
5. System
rheoli gwaith achos
Darparwyd
gwybodaeth am nifer yr Aelodau sy’n defnyddio'r system; cost
y system hyd yn hyn; goblygiadau o ran diogelu adnoddau pan fydd
staff y comisiwn yn ymwneud â’r broses o ofyn am ddata
o’r gofrestr etholiadol a chael y data hynny; a’r
risgiau o’r data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mantais
wleidyddol.
Codwyd pryderon ynghylch costau’rprosiect hyd yn hyn, a gofynnwyd am fwy o waith i gael ei wneud ar brosiectau tebyg yn y dyfodol i sefydlu gofynion defnyddwyr, amcangyfrif y nifer a fydd yn ei ddefnyddio, a sicrhau bod amcangyfrifon o’r costau yn gadarn.
Cytunodd y Comisiwn i wneud cais i’r Comisiwn ddod yn gorff a enwir yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001.
Cam i’w gymryd: Keith Bush i ofyn am newid i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 i gynnwys Comisiwn y Cynulliad fel corff a enwir.
6. Penderfyniad
ac adroddiad y Bwrdd Taliadau
Gwnaeth y Bwrdd Taliadau ei
Benderfyniad cyntaf ym mis Mawrth 2011, ond ar y pryd nid oedd yn
gallu gwneud penderfyniadau terfynol o ran y cyflogau ychwanegol
sy’n daladwy i rai deiliaid swyddi yn y Cynulliad.
Mae’r Penderfyniad bellach wedi cael ei
ddiweddaru i adlewyrchu penderfyniadau ar gyflogau ychwanegol
sy’n daladwy i Gomisiynwyr, arweinwyr y pleidiau,
cadeiryddion pwyllgorau a rheolwyr busnes, a derbyniwyd y
Penderfyniad yn ffurfiol yng nghyfarfod y Comisiwn.
Roedd
y Comisiynwyr
o’r farn nad oedd y trefniadau cyflog ychwanegol i reolwyr
busnes y pleidiau yn ddigonol o ran adlewyrchu gwahaniaethau yn y
nifer o seddi sydd gan bob plaid.
Codwyd materion gyda’r Llywydd a’r Comisiynwyr eraill am y cap misol ar lety ar rent ac am y meini prawf o ran pellter i fod yn gymwys i gael cymorth llety yn seiliedig ar yr etholaeth neu’r rhanbarth y mae’r Aelod yn ei gynrychioli. Cytunodd y Comisiwn y byddai’r Llywydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau.
Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu gosod y Penderfyniad a’r adroddiad, ac anfon y dogfennau i Aelodau'r Cynulliad a’u staff.
Y Llywydd i ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau yn nodi pryderon yr Aelodau am y cyfyngiadau ar gymhwyster ar gyfer cymorth llety.
7. Adroddiad
blynyddol Pwyllgor Archwilio’r Comisiwn
Nodwyd yr adroddiad
blynyddol.
8. Rhestr o
gontractau
Nodwyd y rhestr o
gontractau. Gofynnodd y Comisiynwyr bod yr amserlen yn cael ei ddiweddaru
i adlewyrchu dyfarnu’r contract arlwyo.
9. Rhaglen dreigl Comisiwn y
Cynulliad
Nodwyd
yrhaglen
dreigl.
10. Unrhyw
fusnes arall
Nid oedd
unrhyw fusnes arall.